Nearly half of unpaid carers in Wales feel their role goes unrecognised in their community
- 45% of people who are currently caring say they do not feel their role as an unpaid carer is understood and valued by their community
- More than 1 in 5 (22%) of current and former carers said they had been unable to take part in local groups or activities
- Huge drive to help build carer friendly communities across Wales launched for Carers Week 2026
Read the full report on the Carers Week website
Findings mark the start of Carers Week which takes place from 8-14 June. The theme of this year’s Carers Week, backed by headline sponsor TSB Bank, is ‘Building Carer Friendly Communities’.
A significant number of people looking after a family member or friend do not feel that their role as an unpaid carer is understood or valued by their community.
New research for Carers Week 2026 has found that close to half (45%) of people in Wales who are currently caring believe their role is overlooked.
An Opinium poll of over 4,000 members of the public across the UK, found that carers often find it difficult to participate in their communities. Nearly a quarter (22%) of current and former carers in Wales said they had been unable to take part in local groups or activities while caring and nearly one fifth (19%) said they had been unable to get the support they need from essential shops and services.
Every day, 12,000 people across the UK take on unpaid caring responsibilities. Without the right support, this can affect their ability to look after their own health and wellbeing, as well as household finances, employment, education and social opportunities.
A carer friendly community is a place, space or organisation that values carers and does something practical to support them by identifying carers, listening and responding to their experiences so that they are not left to cope alone.
Clair Canvin, TSB Senior Fraud Consultant and carer said:
“Caring for my mum, who has dementia, has been incredibly challenging, especially as her needs have increased and she relies on my presence to feel safe and reassured. Balancing that with work has not always been easy.
“The support I have received at TSB, particularly through paid carer’s leave, has made a huge difference, giving me the flexibility to be there for my mum while continuing my career. This kind of support should not be the exception. Every working carer should be able to balance their responsibilities at home with their role at work.”
Results from the new research for Carers Week found some organisations and services in Wales are seen as more carer friendly than others. Whilst 73% of current and former carers using a pharmacy said it was carer friendly, over a third (37%) of current and former carers who had used public transport said it was not carer friendly.
Nearly 1 in 3 (29%) of current carers in Wales said that if their role as an unpaid carer was better understood they would feel happier, 23% said they would feel more valued and nearly a quarter (24%) said they would feel less stressed.
Carers UK and charity supporters Age UK, Carers Trust, MND Association, Rethink Mental Illness, The ME Association and The Lewy Body Society are inviting communities to share good practice, and for all of us to help raise awareness of the importance of carer friendly communities.
Members of the public and leaders in society can show their support by adding their name to a digital wall on the Carers Week website. Carers UK and charity supporters will also launch a blueprint providing inspiration, direction and suggestions for building a carer friendly community where you live.
Rob Simkins, Head of Policy and Public Affairs at Carers Wales, said:
“Without the sacrifice and dedication of hundreds of thousands of unpaid carers across Wales, our health and social care systems would be overwhelmed and hundreds of thousands of people receiving care would live more difficult lives. With an ageing population and growing prevalence of complex care needs, it’s vital that together in Wales we build carer friendly communities that can help to recognise and support carers.
There are a range of things that communities can do to help make carers’ lives better, starting small all the way through to more systemic changes. You can find examples of good practice and ideas to help you make carer friendly communities on the Carers Week website.”
Ariam Enraght-Moony, Chief People Officer, TSB, said:
"The millions of unpaid carers who provide a vital lifeline to family, and friends deserve support and recognition at work for their role within our communities.
"Our paid carers leave recognises the importance of colleagues who are carers being able to balance their caring responsibilities without impacting their career, which benefits colleagues, employers, and communities alike."
- ENDS -
Notes to Editors
Carers Week charities commissioned Opinium to carry out polling of over 4,100 people aged 18 and over in the UK in March 2026, including adults who are currently providing unpaid care. Polling was boosted in Northern Ireland and Wales to ensure we had sufficiently large sample sizes. This research suggests that millions of unpaid carers would benefit from more support from their communities. This year’s research report has been sponsored by TSB, and we are grateful for their support.
Mae bron i hanner y gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn teimlo nad yw eu rôl yn cael ei chydnabod yn eu cymuned
- Mae 45% o bobl sy’n darparu gofal ar hyn o bryd yn dweud nad ydynt yn teimlo bod eu rôl fel gofalwr di-dâl yn cael ei deall a’i gwerthfawrogi gan eu cymuned.
- Dywedodd mwy nag 1 o bob 5 (22%) o ofalwyr presennol a chyn-ofalwyr nad oeddent wedi gallu cymryd rhan mewn grwpiau neu weithgareddau lleol.
- Lansiwyd ymgyrch fawr i helpu i adeiladu cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr ledled Cymru ar gyfer Wythnos y Gofalwyr 2026.
Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Wythnos y Gofalwyr.
Mae’r canfyddiadau hyn yn nodi dechrau Wythnos y Gofalwyr, sy’n cael ei chynnal rhwng 8 a 14 Mehefin. Thema Wythnos y Gofalwyr eleni, gyda chefnogaeth y prif noddwr, Banc TSB, yw “Adeiladu Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ofalwyr”.
Nid yw nifer sylweddol o bobl sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind yn teimlo bod eu rôl fel gofalwr di-dâl yn cael ei deall na’i gwerthfawrogi gan eu cymuned.
Mae ymchwil newydd ar gyfer Wythnos y Gofalwyr 2026 wedi canfod bod bron i hanner (45%) y bobl yng Nghymru sy’n darparu gofal ar hyn o bryd yn credu bod eu rôl yn cael ei hanwybyddu.
Canfu arolwg gan Opinium o dros 4,000 o aelodau’r cyhoedd ledled y DU fod gofalwyr yn aml yn ei chael yn anodd cymryd rhan yn eu cymunedau. Dywedodd bron i chwarter (22%) o ofalwyr presennol a chyn-ofalwyr yng Nghymru nad oeddent wedi gallu cymryd rhan mewn grwpiau neu weithgareddau lleol tra’n darparu gofal, ac roedd bron i bumed (19%) yn dweud nad oeddent wedi gallu cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt gan siopau a gwasanaethau hanfodol.
Bob dydd, mae 12,000 o bobl ledled y DU yn ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu di-dâl. Heb y cymorth cywir, gall hyn effeithio ar eu gallu i ofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain, yn ogystal â chyllid y cartref, cyflogaeth, addysg a chyfleoedd cymdeithasol.
Mae cymuned sy’n gyfeillgar i ofalwyr yn fan, gofod neu sefydliad sy’n gwerthfawrogi gofalwyr ac yn gwneud rhywbeth ymarferol i’w cefnogi drwy adnabod gofalwyr, gwrando arnynt ac ymateb i’w profiadau fel nad ydynt yn cael eu gadael i ymdopi ar eu pennau eu hunain.
Dywedodd Clair Canvin, Uwch Ymgynghorydd Twyll yn TSB a gofalwr:
“Mae gofalu am fy mam, sydd â dementia, wedi bod yn heriol iawn, yn enwedig wrth i’w hanghenion gynyddu a’i bod yn dibynnu ar fy mhresenoldeb i deimlo’n ddiogel ac yn dawel ei meddwl. Nid yw cydbwyso hynny gyda gwaith wedi bod yn hawdd bob amser.
“Mae’r gefnogaeth rwyf wedi’i chael yn TSB, yn enwedig drwy absenoldeb gofalwyr â thâl, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, gan roi’r hyblygrwydd i mi fod yno i fy mam wrth barhau â’m gyrfa. Ni ddylai’r math hwn o gefnogaeth fod yn eithriad. Dylai pob gofalwr sy’n gweithio allu cydbwyso ei gyfrifoldebau gartref gyda’i rôl yn y gweithle.”
Canfu canlyniadau’r ymchwil newydd ar gyfer Wythnos y Gofalwyr fod rhai sefydliadau a gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu hystyried yn fwy cyfeillgar i ofalwyr nag eraill. Er bod 73% o ofalwyr presennol a chyn-ofalwyr a oedd wedi defnyddio fferyllfa yn dweud ei bod yn gyfeillgar i ofalwyr, dywedodd dros draean (37%) o’r rhai a oedd wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus nad oedd hi’n gyfeillgar i ofalwyr.
Dywedodd bron i 1 o bob 3 (29%) o ofalwyr presennol yng Nghymru y byddent yn teimlo’n hapusach pe bai eu rôl fel gofalwr di-dâl yn cael ei deall yn well; dywedodd 23% y byddent yn teimlo’n fwy gwerthfawr, ac roedd bron i chwarter (24%) yn dweud y byddent yn teimlo llai o straen.
Mae Carers UK a’r elusennau cefnogol Age UK, Carers Trust, MND Association, Rethink Mental Illness, The ME Association a The Lewy Body Society yn gwahodd cymunedau i rannu arferion da ac yn annog pawb i helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr.
Gall aelodau’r cyhoedd ac arweinwyr mewn cymdeithas ddangos eu cefnogaeth drwy ychwanegu eu henw at wal ddigidol ar wefan Wythnos y Gofalwyr. Bydd Carers UK a’r elusennau cefnogol hefyd yn lansio cynllun gweithredu a fydd yn darparu ysbrydoliaeth, cyfeiriad ac awgrymiadau ar gyfer adeiladu cymuned sy’n gyfeillgar i ofalwyr lle rydych yn byw.
Dywedodd Rob Simkins, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus yn Carers Wales:
“Heb aberth ac ymroddiad cannoedd o filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru, byddai ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu llethu, a byddai cannoedd o filoedd o bobl sy’n derbyn gofal yn byw bywydau llawer anos. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd yn nifer yr anghenion gofal cymhleth, mae’n hanfodol ein bod ni yng Nghymru yn adeiladu cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr er mwyn helpu i’w cydnabod a’u cefnogi.
“Mae amrywiaeth o bethau y gall cymunedau eu gwneud i wella bywydau gofalwyr, o gamau bach hyd at newidiadau mwy systemig. Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o arferion da a syniadau i helpu i greu cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr ar wefan Wythnos y Gofalwyr.”
Dywedodd Ariam Enraght-Moony, Prif Swyddog Pobl TSB:
“Mae’r miliynau o ofalwyr di-dâl sy’n darparu cymorth hanfodol i deulu a ffrindiau yn haeddu cefnogaeth a chydnabyddiaeth yn y gweithle am eu rôl yn ein cymunedau.
“Mae ein polisi o absenoldeb gofalwyr â thâl yn cydnabod pwysigrwydd galluogi cydweithwyr sy’n ofalwyr i gydbwyso eu cyfrifoldebau gofalu heb effeithio ar eu gyrfa, sy’n fuddiol i gydweithwyr, cyflogwyr a chymunedau fel ei gilydd.”
– DIWEDD –
Nodiadau i Olygyddion
Comisiynodd elusennau Wythnos y Gofalwyr Opinium i gynnal arolwg o dros 4,100 o bobl 18 oed a hŷn ledled y DU ym mis Mawrth 2026, gan gynnwys oedolion sy’n darparu gofal di-dâl ar hyn o bryd. Cafodd y sampl ei chynyddu yng Nghymru a Gogledd Iwerddon er mwyn sicrhau maint sampl digonol. Mae’r ymchwil hwn yn awgrymu y byddai miliynau o ofalwyr di-dâl yn elwa ar fwy o gefnogaeth gan eu cymunedau. Noddir adroddiad ymchwil eleni gan TSB, ac rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth.