Carers Wales would like to congratulate Plaid Cymru on their recent election victory and Rhun Ap Iorweth MS for being elected First Minister.
The announcement of the new Welsh Government Cabinet yesterday (13/05/2026) marks an important point in the campaign to make unpaid carers’ lives better over the next four years.
Carers Wales warmly congratulates all Cabinet Ministers and Deputy Ministers on their appointments and wishes them every success in their new roles. We look forward to working collaboratively across all areas of government to improve the lives of unpaid carers the length and breadth of Wales.
We will be writing to Cabinet Ministers and Deputy Ministers in due course to outline the action that unpaid carers need and deserve to see to help eradicate carer poverty, tackle the health and wellbeing crisis and to support more carers to be able to balance paid work with unpaid care.
Unpaid carers across Wales make an invaluable contribution to families, communities, health and social care services, and the wider economy. Carers need access to timely support, better financial security, improved respite services, flexible employment and education opportunities, and recognition of their rights and wellbeing.
Carers Wales looks forward to working constructively with the new Welsh Government to ensure unpaid carers are properly recognised, supported, and empowered across all areas of policy.
Gofalwyr Cymru yn Ymateb: Ffurfio Cabinet newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y 7fed Senedd
Hoffai Gofalwyr Cymru longyfarch Plaid Cymru ar eu buddugoliaeth ddiweddar yn yr etholiad a Rhun ap Iorwerth AS ar gael ei ethol yn Brif Weinidog.
Mae cyhoeddiad Cabinet newydd Llywodraeth Cymru ddoe (13/05/2026) yn nodi carreg filltir bwysig yn yr ymgyrch i wella bywydau gofalwyr di-dâl dros y pedair blynedd nesaf.
Mae Gofalwyr Cymru yn llongyfarch yn gynnes bob Gweinidog Cabinet a Dirprwy Weinidog ar eu penodiadau ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu rolau newydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd ar draws pob maes llywodraeth i wella bywydau gofalwyr di-dâl ledled Cymru.
Byddwn yn ysgrifennu at Weinidogion Cabinet a Dirprwy Weinidogion maes o law i amlinellu’r camau gweithredu y mae gofalwyr di-dâl eu hangen ac yn eu haeddu er mwyn helpu i ddileu tlodi gofalwyr, mynd i’r afael â’r argyfwng iechyd a llesiant, a chefnogi mwy o ofalwyr i allu cydbwyso gwaith cyflogedig â gofal di-dâl.
Mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i deuluoedd, cymunedau, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a’r economi ehangach. Mae angen i ofalwyr gael mynediad at gymorth amserol, gwell sicrwydd ariannol, gwasanaethau seibiant gwell, cyfleoedd cyflogaeth ac addysg hyblyg, a chydnabyddiaeth o’u hawliau a’u llesiant.
Mae Gofalwyr Cymru yn edrych ymlaen at weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth newydd Cymru i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod yn briodol, eu cefnogi, a’u grymuso ar draws pob maes polisi.