Skip to the content
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Join us Login Forum Media enquiries
Choose your content
UK NI Scotland Wales
  • Mae 71% o ofalwyr di-dâl yn poeni am jyglo gwaith a gofal
  • Mae 53% o ofalwyr sy'n gweithio yn dweud y bydd hi'n fwy heriol dychwelyd i'r gwaith
  • Mae 14% o ofalwyr sy'n gweithio mewn perygl o leihau eu horiau gwaith neu roi'r gorau iddi'n gyfan gwbl os nad ydynt yn cael gweithio o gartref
  • Mae un o bob tri gofalwr mewn perygl o leihau eu horiau gwaith neu roi'r gorau iddi'n gyfan gwbl heb ofal cymdeithasol digonol
  • Gofalwyr Cymru yn lansio canllaw newydd i helpu gofalwyr sy'n gweithio i gydbwyso gwaith a gofal

I gyd-fynd â Diwrnod Hawliau Gofalwyr, heddiw lansiodd Gofalwyr Cymru ymchwil newydd Supporting carers at work: opportunity and imperative yn dangos, er bod rhai cyflogwyr yn fwy cefnogol o ran staff sy'n ofalwyr di-dâl, fod cryn nifer o weithwyr â chyfrifoldebau gofalu mewn perygl o leihau eu horiau gwaith neu roi'r gorau iddi'n gyfan gwbl os nad oedd y mesurau cywir ar waith i'w cefnogi. Heddiw hefyd mae Gofalwyr Cymru wedi lansio canllaw newydd, sef Canllaw i Ofalwyr sy'n Gweithio i gynghori gofalwyr sy'n gweithio.

Dengys yr ymchwil newydd pa mor anodd y gall fod i barhau i jyglo gwaith a darparu gofal di-dâl, gyda saith o bob deg (71%) o ofalwyr sy'n gweithio yn poeni am barhau i jyglo gwaith a gofal, a 76% wedi blino yn y gwaith oherwydd pwysau eu rôl gofal ddi-dâl. Roedd chwech o bob deg wedi rhoi'r gorau i achub ar gyfleoedd gwaith oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Ar adeg pan fo costau byw yn cynyddu, gall gofalwyr sy'n ei chael hi'n anodd cydbwyso gwaith a gofal wynebu caledi ariannol, gan ddibynnu fwyfwy ar y system les a cholli sgiliau am fod eu gyrfa yn cael ei hamharu.

Mae rhai cyflogwyr wedi rhoi mesurau gweithio mwy hyblyg ar waith ac wedi dod yn fwy cefnogol, ond mae gallu gofalwyr i weithio mewn perygl o hyd os na fabwysiedir mesurau cefnogol yn ehangach. Dywedodd 37% o ofalwyr sy'n gweithio bod eu cyflogwr wedi dangos cryn dipyn yn fwy o ddealltwriaeth o ofalu yn ystod y pandemig a dywedodd dros hanner (53%) fod eu rheolwr llinell yn deall gofalu yn dda ac yn gefnogol. Dywedodd dros hanner (54%) eu bod wedi cael budd o fesurau gweithio mwy hyblyg yn y gweithle. Eto i gyd, dywedodd un rhan o bump (21%) nad oedd eu cyflogwr yn dangos dealltwriaeth o ofalu.

Er bod modd i bedwar o bob deg (44%) o'r holl ofalwyr oedd yn gweithio weithio o gartref y rhan fwyaf o'r amser, os nad drwy'r amser, dywedodd 9% fod angen hyn arnynt yn y gwaith a dywedodd 14% (un o bob saith) arall os na fyddent yn cael hyn y byddent mewn perygl o leihau eu horiau gwaith neu roi'r gorau iddi'n gyfan gwbl. Mae hyblygrwydd yn hanfodol er mwyn cadw gofalwyr mewn gwaith am dâl, gyda 53% o ofalwyr yn dweud y byddai dychwelyd i'r gwaith yn fwy heriol hebddo. I eraill, mae'r gwaith yn seibiant hanfodol o ofalu.

Gallai un o bob pump (22%) o ofalwyr sy'n gweithio gymryd Absenoldeb Gofalwyr â thâl, dywedodd 46% fod ei angen arnynt a dywedodd 15% arall eu bod mewn perygl o leihau eu horiau gwaith neu roi'r gorau iddi'n gyfan gwbl os nad oeddent yn ei gael. Gallai 36% gymryd Absenoldeb Gofalwyr di-dâl.

Y ffactor mwyaf o ran y perygl y gallai gofalwyr adael eu swyddi oedd diffyg gofal cymdeithasol digonol. Dywedodd un o bob pump (21%) o ofalwyr sy'n gweithio fod angen gofal fforddiadwy a hygyrch arnynt ar gyfer y person maent yn gofalu amdano neu fel arall byddent mewn perygl o leihau eu horiau gwaith neu roi'r gorau iddi'n gyfan gwbl. Yn yr un modd, roedd angen i 11% gael gwasanaethau roeddent arfer dibynnu arnynt cyn y pandemig er mwyn dychwelyd i'r gwaith neu byddent yn wynebu'r un risgiau.

Nid yw hyn yn syndod o ystyried ymchwil gynharach gan Carers UK a nododd fod 55% o ofalwyr a oedd yn dibynnu ar wasanaethau dydd yn profi llai o gefnogaeth neu ddim cefnogaeth o gwbl. Roedd tua thraean o'r gofalwyr a oedd yn dibynnu ar weithwyr gofal wedi profi'r un peth.

Roedd jyglo gwaith a gofal di-dâl eisoes yn her cyn y pandemig, gyda 600 o bobl y dydd ledled y DU yn rhoi'r gorau i'w swyddi er mwyn darparu gofal, yn ôl yr amcangyfrifon. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar sefyllfa ariannol gofalwyr yn y byrdymor a'r tymor hwy, ond mae hefyd yn cael effaith ar gynhyrchiant busnesau; yn ôl yr amcangyfrifon gellid sicrhau budd blynyddol o £8.2 biliwn1 i fusnesau yn y DU yn sgil arferion gwaith mwy cefnogol.

Pan ddigwyddodd y pandemig, gwnaeth nifer syfrdanol o 2.8 miliwn o weithwyr ledled y DU ddod yn ofalwyr di-dâl dros nos bron. O'r herwydd cafwyd nifer amcangyfrifedig o un o bob pump o weithwyr yn darparu gofal, o gymharu ag un o bob saith o weithwyr cyn y pandemig.

Mae pethau wedi mynd yn fwy anodd i ofalwyr gydag 81% yn darparu mwy o ofal yn aml am fod anghenion y person maent yn gofalu amdano wedi cynyddu. 

Dywedodd Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru:

“Mae'n bleser gennym heddiw lansio cyhoeddiad newydd, sef “Canllaw i Ofalwyr sy'n Gweithio: Canllaw i ofalwyr sy'n cydbwyso gwaith am dâl a chyfrifoldebau gofalu”. Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, bydd yr adnodd hwn yn helpu gofalwyr sy'n gweithio i ddeall eu hawliau, dysgu sut i fynd i'r afael â heriau cyffredin a wynebir gan ofalwyr sy'n gweithio, a thrafod eu rôl ofalu gyda'u cyflogwr. Byddem hefyd yn argymell y canllaw i unrhyw gyflogwr sydd am ddeall sut y gall gefnogi ei gyflogeion sydd â chyfrifoldebau gofalu.”

 “Mae'n wych gweld bod mesurau gweithio hyblyg a chymorth i ofalwyr yn y gweithle wedi datblygu, ond gallwn weld o brofiadau gofalwyr ein bod wrth groesfan lle llwyddo neu fethu yw hi i lawer o ofalwyr sy'n gweithio. Mae gofalwyr wedi bod yn darparu mwy o ofal nag erioed, ac ychydig iawn sy'n cael y seibiant sydd ei angen arnynt.

“Mae mwy y gall cyflogwyr ei wneud i gefnogi gofalwyr. Gallant ei gwneud hi'n haws i weithwyr drwy bethau fel mesurau gweithio hyblyg ac Absenoldeb Gofalwyr â thâl sydd nid yn unig yn cefnogi gofalwyr ond sydd hefyd yn gwneud synnwyr busnes da. Mae cyflogwyr arfer dda blaenllaw yng Nghymru wedi dangos bod cefnogi gofalwyr a darparu mwy o hyblygrwydd nid yn unig yn ddymunol, ond hefyd yn ymarferol iawn. Gyda marchnadoedd llafur yn dynn, mae'n hanfodol bod busnesau yn cynnal lefelau cynhyrchiant ac yn cadw staff allweddol.

“Yn ogystal, mae angen buddsoddi mwy mewn gwasanaethau gofal sydd eu hangen ar ofalwyr ac y maent yn dibynnu arnynt er mwyn aros mewn gwaith am dâl, ac mae angen inni weld mwy o weithredu ar hyn gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae a’r her o gydbwyso eu bywydau gwaith a’u gyrfaoedd eu hunain â darparu’r gofal a’r gefnogaeth y mae mawr eu hangen i eraill. Mae ein ‘Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl’ a ‘Chynllun Cyflenwi’ newydd yn nodi ein hymrwymiad i ofalwyr di-dâl o bob oed sydd mewn cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i wella canlyniadau i ofalwyr di-dâl, gan alluogi cyrhaeddiad a dysgu addysgol, ynghyd â chefnogi unigolion i lwyddo yn eu swyddi, dilyn cyfleoedd cyflogaeth neu ailymuno â'r farchnad swyddi. Rwy'n falch bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi galluogi cynhyrchu'r canllaw newydd hwn a fydd yn rhoi gwybodaeth allweddol i ofalwyr sy'n gweithio am eu hawliau, gwybodaeth a chyngor.”

Mae Gofalwyr Cymru yn annog cyflogwyr i wneud y canlynol:

  • Mabwysiadu arferion gwaith sy'n ystyriol o ofalwyr
  • Mabwysiadu Absenoldeb Gofalwyr di-dâl yn y gweithle yn gynnar ond hefyd fynd gam ymhellach a chyflwyno Absenoldeb Gofalwyr â thâl
  • Sicrhau bod cyflogeion yn gwybod eu hawliau yn y gweithle os ydynt yn ofalwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn trin cefnogi gofalwyr yn y gweithle fel blaenoriaeth genedlaethol yn ei Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, gan adeiladu ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a wnaeth gydnabod bod cymryd rhan mewn gwaith yn bwysig i lesiant gofalwyr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn hyrwyddo gweithio hyblyg drwy ei hagendâu Gwaith Teg a Phartneriaeth Gymdeithasol, ond mae angen i lunwyr polisi sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael budd o waith ar yr agendâu hyn.

Mae Gofalwyr Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru ond yn cael ei roi i sefydliadau sy'n bodloni diffiniadau a nodweddion gwaith teg, neu sy'n gweithio tuag at hynny. Rhaid i hyn gynnwys ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr fabwysiadu arferion sydd o blaid gofalwyr.
  • Defnyddio ei dulliau gweithredu partneriaeth gymdeithasol i ymgysylltu â'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, gan gynnwys undebau llafur, er mwyn gwella ymwybyddiaeth a lefelau ymgysylltu wrth gefnogi gofalwyr di-dâl mewn gwaith.
  • Craffu ar y gwaith o fodloni'r gofyniad yn Asesiadau Anghenion Gofalwyr i ystyried a yw gofalwr yn dymuno cael swydd neu ei chadw, a monitro hynny.

Gall y Canllaw i Ofalwyr sy'n Gweithio: Canllaw i ofalwyr sy'n cydbwyso gwaith am dâl a chyfrifoldebau gofalu gael ei lawrlwytho o wefan Gofalwyr Cymru.

- DIWEDD –

Cyswllt cyfryngau

Cysylltwch â swyddfa Gofalwyr Cymru ar:

  • 029 2081 1370 (rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)
  • 07708 379146 (y tu allan i oriau)
  • This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2021:

Bob blwyddyn mae Carers UK yn cynnal Diwrnod Hawliau Gofalwyr er mwyn dwyn ynghyd sefydliadau o bob cwr o'r DU i helpu gofalwyr yn eu cymuned leol i wybod eu hawliau a dysgu sut i gael yr help a'r gefnogaeth sy'n deilwng iddynt.  Bydd cannoedd o sefydliadau yn cymryd rhan ledled y DU er mwyn:

  • Sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o'u hawliau
  • Rhoi gwybod i ofalwyr ble i gael help a chefnogaeth
  • Codi ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr

Eleni bydd ymgyrch Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl. Mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar fywydau gofalwyr, gan effeithio ar y gallu i gael gafael ar wasanaethau, y gallu i jyglo gwaith a gofal a llawer mwy. Dyna pam mae'n bwysicach nag erioed bod gofalwyr yn ymwybodol o'u hawliau.

Caiff Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2021, a gynhelir ddydd Iau 25 Tachwedd, ei gefnogi gan Barclays LifeSkills. Mae Barclays LifeSkills wedi cynorthwyo Carers UK i ddatblygu canllaw ymarferol ac adnoddau fideo er mwyn helpu gofalwyr i ddeall y gwahanol fathau o weithio hyblyg, gan gynnig cyngor ymarferol ar sut i ofyn i'ch cyflogwr i newid eich trefniadau gweithio, a helpu gofalwyr i gydnabod eu rôl ofalu a chael y cymorth sydd ei angen arnynt.

 Ynglŷn â'r ymchwil yn ‘Supporting carers at work: Opportunity and imperative:’

Daw'r canlyniadau yn yr adroddiad o arolwg State of Caring 2021 Carers UK ac maent yn cynnwys profiadau 196 o ofalwyr yng Nghymru sydd wrthi'n darparu gofal ac yn gwneud rhyw fath o waith am dâl, gan gynnwys gwaith hunangyflogedig. Daeth yr arolwg i ben ganol mis Medi. Roedd 30% yn 45-54 oed ac roedd 43% yn 55-64 oed. Roedd 2% o'r ymatebwyr dros 65 oed.

Roedd 51% o'r ymatebwyr mewn gwaith llawn amser, roedd 34% mewn gwaith rhan amser, roedd 6% mewn gwaith hunangyflogedig llawn amser, roedd 9% mewn gwaith hunangyflogedig rhan amser, ac roedd 1% ar ffyrlo. Mae 31% yn darparu gofal am 90 awr neu fwy yr wythnos, tra bod 13% yn darparu gofal am 50–89 awr, 31% am 20–49 awr, a 24% am 1–19 awr yr wythnos.

Canllaw i Ofalwyr sy'n Gweithio

Mae Canllaw i Ofalwyr sy'n Gweithio Gofalwyr Cymru wedi cael ei ariannu fel rhan o Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Nodyn 1:

Yn 2018, amcangyfrifodd Centrica y gallai cwmnïau yn y DU arbed hyd at £4.8 biliwn y flwyddyn mewn absenoldebau heb eu cynllunio, a £3.4 biliwn arall drwy fesurau cadw cyflogeion gwell, drwy fabwysiadu polisïau gweithio hyblyg er mwyn cefnogi'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Gofalwyr Cymru

Mae Gofalwyr Cymru yn rhan o Carers UK, sef elusen a arweinir gan ofalwyr i ofalwyr – ein cenhadaeth yw gwneud bywyd yn well i ofalwyr.

  • Rydym yn rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth arbenigol
  • Rydym yn cysylltu gofalwyr fel nad oes angen i neb ofalu ar eu pen eu hunain
  • Rydym yn ymgyrchu gyda'n gilydd er mwyn cyflawni newid parhaol
  • Rydym yn arloesi er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o gyrraedd a chefnogi gofalwyr

I gael cyngor a gwybodaeth ymarferol am ofalu, ewch i www.carerswales.org neu e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ffoniwch ein llinell gymorth 0808 808 7777.

Rydym wedi datblygu gwybodaeth benodol i gefnogi gofalwyr yn ystod pandemig y coronafeirws yn: https://www.carersuk.org/coronavirus.

Fforwm Carers UK yw ein cymuned ar-lein o ofalwyr ac mae ar gael i aelodau Carers UK 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn: www.carersuk.org/forum.

Gwefan: www.carerswales.org

Facebook: www.facebook.com/carerswales

Twitter:@CarersWales

Mae Carers Wales yn rhan o Carers UK sef elusen wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (246329) ac yn yr Alban (SC039307) ac mae'n gwmni cyfyngedig drwy warant sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (864097).

Back to top