Er mwyn cefnogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn eu rôl i weithio'n effeithiol ac yn gydgynhyrchiol gyda gofalwyr di-dâl, mae'r prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr wedi datblygu adnoddau i gefnogi'r gwaith hwn.
Mae'r adnoddau hyn wedi'u hanelu at y rhai sy'n datblygu eu sgiliau ac yn atgoffa'r rhai sy'n gweithio yn y maes ar yr hyn sydd angen ei ystyried i gefnogi perthynas ystyrlon rhwng gweithwyr proffesiynol a gofalwyr di-dâl. Mae’r adnoddau wedi’u datblygu ochr yn ochr â Chonffederasiwn GIG Cymru, BASW a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Pwy sy'n ofalwr di-dâl?
Mae ein fideo yn trafod pwy sy'n ofalwr di-dâl a sut i'w hadnabod yn eich rôl broffesiynol.

Dysgwch am hawliau gofalwyr
Gweler ein hadnoddau fideo a ddyluniwyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n esbonio'r hawliau sydd gan ofalwyr di-dâl. Mae yna hefyd daflenni i gyd-fynd â'r animeiddiadau.

Egwyddorion Arfer Da ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol
Mae'r berthynas rhwng gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr di-dâl yn allweddol ar gyfer gofalu am bobl agored i niwed a'r gofalwyr eu hunain.

Having conversations with carers
Mae'r gyfres fideo hon yn siarad â gweithwyr proffesiynol a gofalwyr am sut brofiad yw siarad â'ch gilydd a beth y gellir ei wneud i wneud y sgwrs yn haws.

Cynnwys gofalwyr wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty
Darganfod y ffordd orau o gynnwys gofalwyr wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty gyda’n hegwyddorion arfer da.

Adnoddau ar gyfer fferyllfeydd
Mae fferyllwyr a staff fferyllol mewn sefyllfa unigryw i adnabod gofalwyr. Wrth galon cymunedau ac yn aml yn datblygu perthnasoedd cefnogol gyda chwsmeriaid rheolaidd.

Ymchwil o'r prosiect
Drwy gydol y prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr, rydym wedi casglu ymchwil o’n canfyddiadau a thrwy ymchwil desg.
Latest updates
Carers UK marks 60 years of the carers’ movement and women’s leadership at Mary Webster Lecture
Carers UK response: Publication of Sir Charlie Mayfield’s Keep Britain Working Review
Half of Wales’ Unpaid Carers Now Cutting Back on Essentials Amid Deepening Crisis / Hanner Gofalwyr Di-dâl Cymru Nawr yn Torri’n Ôl ar Hanfodion yng Nghanol Argyfwng sy’n Dyfnhau
Carers UK responds to updated Terms of Reference for the Timms Review of Personal Independence Payment
Got a question about caring?
Every day we hear from people who need help with looking after a friend or family member
Become a member for free
Joining Carers UK is free and takes just a few minutes.