Skip to the content
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Join us Login Forum Media centre
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Yng Nghymru, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn sail i’r hawliau cyfreithiol i ofalwyr di-dâl.

Mae’r adnodd hwn yn edrych yn fanwl ar y Ddeddf a beth mae hyn yn ei olygu i chi fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda gofalwyr, rhai animeiddiadau byr i rannu a rhoi cyhoeddusrwydd i hawliau gofalwyr a rhai posteri y gellir eu harddangos i wneud yn siŵr bod gofalwyr yn gwybod am eu hawliau.

 

Beth yw hawliau gofalwyr o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Mae’r fideo hwn yn trafod sut mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ymgorffori hawliau cyfreithiol i ofalwyr di-dâl a beth yw dyletswyddau gweithwyr proffesiynol wrth weithio gyda gofalwyr.

Mae hefyd yn amlinellu sut mae hyn yn rhyngweithio â hawliau'r rhai sydd ag angen gofal.

Mae gan Gofalwyr Cymru hefyd adnoddau i ofalwyr ar Asesiadau Anghenion Gofalwyr. Cliciwch yma i edrych ar yr adnoddau hyn.

Animeiddiad Hawliau Gofalwyr

Mae'r animeiddiad hwn yn ffordd wych o gyflwyno hanfodion hawliau gofalwyr i unrhyw gynulleidfa.

Llyfrynnau i'w Rhannu

I gefnogi rhannu hawliau gyda'ch staff, cleientiaid a gofalwyr, rydym wedi datblygu'r llyfrynnau hyn. Lawrlwythwch mewn lliw neu ddu a gwyn isod.

Back to top