Skip to the content
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Join us Login Forum Media centre
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Beth gewch chi allan ohono

Mae’n gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, lledaenu’r gair a chael y boddhad o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yn yr ardal lle rydych chi’n byw.

Byddwch hefyd yn rhan o raglen wirfoddoli flaenllaw Gofalwyr Cymru a byddwn yn eich cefnogi yr holl ffordd.

 

Beth mae'n ei olygu?

  • Byddwch yn cysylltu â llyfrgelloedd, fferyllfeydd, meddygon teulu, clybiau chwaraeon a siopau gan ofyn iddynt arddangos posteri a

  • Efallai y byddwch yn cynnal stondinau gwybodaeth mewn archfarchnadoedd, ysbytai, hybiau cymunedol, cyfarfodydd ffydd – unrhyw le y teimlwch y byddwch yn cyrraedd gofalwyr di-dâl i drafod gofalu a dweud wrthynt beth sydd gan Ofalwyr Cymru i’w gynnig.

  • Byddem hefyd am i chi roi gwybod i ni am yr hyn rydych wedi bod yn ei wneud, rhoi adborth i ni a rhoi gwybod i ni ble rydych wedi bod yn dosbarthu deunyddiau.

  • Byddwch yn nodi lleoedd yn y gymuned sy'n cefnogi pobl â chyflyrau hirdymor ac yn rhoi ein deunyddiau iddynt.

  • Byddwn yn rhoi mwy o awgrymiadau i chi ar sut i ddechrau arni yn eich pecyn gwirfoddoli.

  • Chi sydd i benderfynu sut i gymryd rhan!

 

Y sgiliau sydd gennych chi

  • personoliaeth gyfeillgar

  • sgiliau cyfathrebu gwych

  • y gallu i ddod ymlaen yn dda gyda phobl newydd o bob cefndir

  • angerdd dros wella cymorth i ofalwyr

  • sgiliau trefnu da a mynediad at gyfrifiadur

  • yr hyder i ddefnyddio eich menter eich hun.

Sut y byddwn yn eich cefnogi

Byddwn yn rhoi’r holl offer sydd eu hangen arnoch i ddechrau arni – bydd eich pecyn gwirfoddoli yn cynnwys llawlyfr gwirfoddolwyr ynghyd ag awgrymiadau a chanllawiau ar fynd allan yno am y tro cyntaf. Byddwn hefyd yn danfon y deunyddiau cyhoeddusrwydd yn uniongyrchol i chi, yn ogystal â thalu am eich costau teithio.

 

Eich amser

Mae'r rôl hon yn hyblyg iawn. Ein hunig ofyniad yw y gallwch gynnig lleiafswm o ddwy awr o wirfoddoli'r mis.

 

Sut i wneud cais

I gael gwybod mwy lawrlwythwch y disgrifiad rôl. I gofrestru ar gyfer y rôl, cliciwch ar y botwm isod.

 

Byddwn mewn cysylltiad o fewn saith diwrnod gwaith i drafod eich cais. Rhaid i bob gwirfoddolwr fod dros 18 oed.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach e-bostiwch ni ar [email protected] 

Darganfod mwy

Eisiau gwybod mwy am y rôl hon? Lawrlwythwch y proffil rôl. (Dim ond ar gael yn Saesneg)

Latest updates

Press Release
Dummy image
Launch of cross- government Carers Action Plan
14 Gorffennaf 26
Today, the Government has launched a cross-government Carers Action Plan signed by four Ministers, across health and social care, welfare, work and education.
Press Release
Dummy image
Care Quality Commission publishes report on assessments by Local Authorities
14 Gorffennaf 26
The Care Quality Commission (CQC) has published a report drawing together findings from the first-ever national programme of assessments of local authorities in England, including the identification and support offered to unpaid carers. 
Press Release
Dummy image
Carers UK responds to Work and Pensions Committee "Transition to State Pension Age" report
13 Gorffennaf 26
Press Release
Dummy image
Carer-focused amendments not adopted during Health Bill Committee Stage - but stronger laws are still needed
10 Gorffennaf 26
Several amendments firmly supported by Carers UK to the Health Bill were discussed at Committee Stage. These were not included to stand as part of the Health Bill.

Got a question about caring?

Every day we hear from people who need help with looking after a friend or family member

Become a member for free

Joining Carers UK is free and takes just a few minutes.

Back to top