Beth fyddwch chi'n ei gael ohono?
Mae gwybodaeth yn bwysig, ond mae profiad yn hollbwysig. Bydd eich mewnbwn yn hanfodol i ddatblygu ein gwasanaethau, ein polisi a'n hymchwil. Byddwn hefyd yn amlygu lle gallwch chi gyfrannu at ddylanwadu ar wasanaethau lleol a chenedlaethol, cymryd rhan mewn ymgysylltu strategol a siarad am ofalu mewn digwyddiadau ac yn y cyfryngau. Byddwch yn ymuno â'n rhaglen wirfoddoli flaenllaw a byddwn yn eich cefnogi yr holl ffordd.
Beth mae'n ei olygu?
-
Byddwch yn cynnig mantais eich profiad fel gofalwr i fod yn ‘ffrind beirniadol’ i Gofalwyr Cymru.
-
Byddwch yn edrych ar ddogfennau, adnoddau a syniadau newydd am ddatblygu cymorth.
-
Byddwch yn cael cymorth i ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau lleol a gwella’r gwasanaethau sy’n bwysig i chi fel gofalwr.
-
Byddwch yn cael cynnig cyfleoedd i ymddangos yn y cyfryngau, gan adrodd eich stori fel bod llais y gofalwr yn cael ei glywed gan y cyhoedd
-
Byddwch yn ein helpu i ddylanwadu ar wasanaethau ac arferion sefydliadau pwysig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
-
Byddwch yn darparu eich ymatebion o fewn amserlen benodol ac yn cadw mewn cysylltiad trwy e-bost neu dros y ffôn.
-
Byddwch yn cymryd rhan yn ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol proffil uchel megis Wythnos Gofalwyr a Diwrnod Hawliau Gofalwyr
Y sgiliau sydd gennych chi
-
profiad o ofalu
-
yr hyder i fynegi eich barn
-
diddordeb mewn ein helpu i ddatblygu ein hymgyrchoedd
-
angerdd dros wella cymorth i ofalwyr
-
mynediad i ffôn a chyfrifiadur.
Sut y byddwn yn eich cefnogi
Yn ogystal â’ch llawlyfr gwirfoddolwyr, byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm Gofalwyr Cymru. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi i wneud yn siŵr bod gennych y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.
Eich amser
Mae hon yn rôl hyblyg.
Chi sy'n dewis yr hyn yr hoffech chi ymwneud ag ef. Gall gymryd ychydig funudau, weithiau bydd angen ymrwymiad hirach.
Sut i wneud cais
I gael gwybod mwy lawrlwythwch y disgrifiad rôl. I gofrestru ar gyfer y rôl, cliciwch ar y botwm isod.
We will be in touch with details once you've sent us your application. All volunteers must be over 18 years old.
If you have any further questions, please email us at volunteer@carerswales.org
Latest updates
Open letter to the Economy Minister on paid carer's leave in Northern Ireland
Open letter from trade union leaders, economists and community sector groups on paid carer's leave in Northern Ireland.
Carer’s leave law could save Stormont millions in benefit payments, research suggests
New research reveals significant economic benefits of introducing paid carer's leave in NI.
Carers UK responds to Work and Pensions Committee discussion on Carer's Allowance
Carers Wales mark the implementation of the Carer’s Leave Act with new findings on carers in employment / Mae Gofalwyr Cymru yn nodi gweithredu'r Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr gyda chanfyddiadau newydd ar ofalwyr mewn cyflogaeth.
Got a question about caring?
Every day we hear from people who need help with looking after a friend or family member
Become a member for free
Joining Carers UK is free and takes just a few minutes.