Skip to the content
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Join us Login Forum Media centre
Choose your content
UK NI Scotland Wales

 

 

Mae Gofalwyr Cymru yn falch iawn o gael cynnal Cynulliad Gofalwyr Cymru ddydd Llun 19 Chwefror yn Siambr Hywel (yr hen siambr drafod) yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Bydd y diwrnod yn dechrau am 10:00 ac yn rhedeg tan 15:00, gyda chymysgedd o sesiynau yn grymuso gofalwyr di-dâl i ymgysylltu’n uniongyrchol â chynrychiolwyr etholedig, ac uwch swyddogion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac i arwain trafodaethau ar y materion sy’n effeithio ar ofalwyr. ledled Cymru yn ddyddiol.

Rydym eisiau cynrychiolaeth o bob ardal o Gymru felly byddwn yn dewis o leiaf dau ofalwr di-dâl ar gyfer pob ardal awdurdod lleol (cyngor). Bydd y digwyddiad yn un hybrid felly bydd unrhyw un nad yw'n cael ei ddewis neu'r rhai y mae'n well ganddynt beidio â theithio yn gallu ymgysylltu a chyfrannu o gartref.

Bydd bwrsariaethau cyfyngedig ar gael i fynychwyr personol i gynorthwyo gyda theithio, llety a/neu ofal seibiant. Bydd manylion y rhain yn cael eu rhyddhau ymhell cyn y digwyddiad.

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yn cael ei ryddhau yn y cyfnod cyn y digwyddiad.

 

Cofrestru

09:30-10:00 

 

Croeso

10:00-10:05 

Claire Morgan, Gofalwyr Cymru

Noddwr

10:05-10:10 

Joel James AS 

Agoriad

10.10-10.15 

Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol

Gosodiad cyd-destun

10:15-10:45 

Tîm polisi ac ymgyrchoedd, Gofalwyr Cymru

Trafodaeth Panel Iechyd

10:45-11:30 

I gael ei gadarnhau

Egwyl

11.30-11.40 

 

Trafodaeth Panel Gwasanaethau Cymdeithasol

11:45-12:30 

Sioned Williams AS 

Cllr Andrew Morgan, WLGA 

Alwyn Jones, ADSS 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Cinio

12:30-13:15 

 

Trafodaeth Panel Cyflogaeth

13.15–14.00 

Jayne Bryant AS 

Rhianydd Williams, Wales TUC

Josh Miles, Sefydliad Dysgu a Gwaith

 

Y Dweud Olaf

14.00-14:55 

Trafodaeth dan arweiniad gofalwyr

Cau

14.55 - 15:00 

Claire Morgan, Gofalwyr Cymru

Back to top