Skip to the content
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Join us Login Forum Media centre
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Hyfforddiant Gofal Cymdeithasol

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol i wella eu rhyngweithio â gofalwyr di-dâl i wella eu cydberthnasau. Mae gweithwyr cymdeithasol yn ffynhonnell hanfodol o gefnogaeth i ofalwyr di-dâl a'r bobl fregus y maent yn gofalu amdanynt. Bydd mynychwyr yn dysgu am egwyddorion arfer da ac awgrymiadau ymarferol y gallant eu defnyddio yn eu gwaith i gynyddu'r tebygolrwydd o gydberthnasau cefnogol, agored a chadarnhaol rhwng gweithwyr cymdeithasol a'r gofalwyr di-dâl y maent yn gweithio gyda nhw.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cyfrif tuag at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Gweithwyr Cymdeithasol. Bydd bathodyn digidol achrededig yn cael ei ddarparu ar gyfer cofnodion ar ôl i chi gwblhau'r hyfforddiant hwn.

*Rydym bellach yn darparu bathodyn ffisegol ochr yn ochr â'r bathodyn digidol.

Mae pob sesiwn hyfforddi yn 1.5 awr o hyd.

Cofrestrwch yma

 

Hyfforddiant Gofal Iechyd

Hyfforddiant Hawliau Gofalwyr ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol: Gwahoddiad i weminar am ddim (1 awr)

Cofrestrwch ar gyfer ein gweminarau rhad ac am ddim:
Dydd Iau 29 Medi 10-11am (TEAMS)
Dydd Mawrth 25 Hydref 9-10am (ZOOM)

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi dweud wrthym nad ydynt bob amser yn hyderus ynghylch nodi pwy sydd ac nad yw wedi’i gynnwys yn y diffiniad o ofalwr di-dâl, pa fathau o ofal sydd wedi’u cynnwys yn y diffiniad, pa hawliau sydd gan ofalwyr, pa gymorth sydd ar gael a sut i dod o hyd iddo.

Rydym wedi creu rhai animeiddiadau byr sy’n esbonio hawliau gofalwyr a lle gallwch ddarganfod mwy am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr. Mae yna hefyd rai taflenni y gallwch eu cadw fel nodyn atgoffa defnyddiol ar ôl gwylio'r animeiddiad neu eu hargraffu ar gyfer eich swyddfa neu'ch hysbysfwrdd (mae fersiynau lliw llawn a du a gwyn ar gael i'w hargraffu'n hawdd).

Gallwch ddod o hyd i'r animeiddiadau a thaflenni yma:
Adnoddau - Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Rydym hefyd yn cynnal rhai sesiynau hyfforddi ar-lein rhad ac am ddim ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae croeso i unrhyw un sy'n gweithio mewn unrhyw rôl mewn unrhyw leoliad gofal iechyd eu mynychu. Cofrestrwch ar y dolenni uchod.

Neu cysylltwch â ni yn wales@carers.org os hoffech i ni gynnal sesiwn am ddim i’ch sefydliad.

 

Back to top