Gofalwyr Cymru yn lansio Ymrwymiad Iaith Gymraeg newydd
Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, mae Gofalwyr Cymru yn falch iawn o ailddatgan ein hymrwymiad i’r Gymraeg gyda Chynllun Datblygu’r Gymraeg newydd.
Mae Gofalwyr Cymru wedi gweithio ochr yn ochr â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i ddatblygu’r cynllun newydd hwn. Mae’r Cynllun yn ceisio annog y defnydd o’r Gymraeg yn rhagweithiol drwy ein gwaith, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Bydd gwelliannau i’n cynnig Iaith Gymraeg yn cael eu cyflwyno’n raddol dros y flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys gallu darllen ein holl gyhoeddiadau yn Gymraeg, cynnal ein hymgyrchoedd yn Gymraeg, cysylltu â ni yn Gymraeg, gwella mynediad i gynnwys Cymraeg ar ein gwefan a helpu ein staff i ddysgu Cymraeg.
Dechreuwn gyda lansiad ein sianel cyfryngau cymdeithasol Gymraeg bwrpasol gyntaf - @GofalwyrCymru ar Twitter. Bydd y sianel hon yn eistedd ochr yn ochr â’n portffolio presennol o arlwy cyfryngau cymdeithasol i barhau i rannu’r newyddion, y cyfleoedd a’r wybodaeth ddiweddaraf i ofalwyr di-dâl ledled Cymru.
Hoffai Gofalwyr Cymru hefyd estyn ein gweddïau a’n meddyliau i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts a fu farw’n ddiweddar yn anffodus.
Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru, Claire Morgan:
‘Mae mynediad at wybodaeth a chymorth yn hollbwysig er mwyn galluogi gofalwyr di-dâl i ofalu’n ddiogel ac yn hyderus. Heddiw, rydym yn adnewyddu ein hymrwymiad i ddarparu gwybodaeth a chymorth yn y Gymraeg.
Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae pob adnodd gwybodaeth wedi ei greu yn ddwyieithog gan gynnwys # ein hyb llesiant ac adnoddau fideo. Wrth inni symud ymlaen, rydym yn mynd i wella’r amlygrwydd i’r adnoddau hyn a chynyddu amlygrwydd ein harlwy Cymraeg.
Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â’n nod cyffredinol o wneud ein hadnoddau’n fwy hygyrch, gan gynnwys y gwaith parhaus o gynhyrchu fersiynau hawdd eu darllen o’n canllawiau, fideos ag iaith arwyddion a mabwysiadu digwyddiadau hybrid sy’n cefnogi gofalwyr i’n cyrraedd ar-lein neu wyneb yn wyneb’.