Cystadleuaeth ffotograffiaeth Gofalwyr Cymru
Mae'r gystadleuaeth wedi cau nawr - diolch am eich holl gynigion. Cyhoeddir y canlyniadau yn fuan!
Mae Gofalwyr Cymru yn eich gwahodd i ddatgelu bywydau cudd gofalwyr di-dâl drwy luniau sy'n dangos sut fywyd sydd gan ofalwyr mewn gwirionedd.
Mae 97% o'r holl ofalu’n cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl. Bywydau sy'n cael eu cuddio o gymdeithas yn aml, gyda neb yn gwybod amdanynt, yn eu gweld nac yn holi amdanynt. Rydym eisiau datgelu'r trafferthion a'r buddugoliaethau mae gofalwyr yn eu hwynebu bob dydd.
Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu gwahodd i arddangosfa sy'n arddangos y ffotograffau buddugol, a bydd y sawl sy'n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a GIG Cymru yn bresennol hefyd. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i'r sawl sy'n mynychu i siarad am y profiadau o fod yn ofalwr di-dâl, a sut y gellir cefnogi gofalwyr di-dâl yn well i barhau â'u rôl amhrisiadwy mewn cymdeithas.
Nid yw dyddiad y digwyddiad wedi cael ei osod ar hyn o bryd oherwydd COVID-19 (Coronafeirws) a’r ffaith nad oes neb yn gwybod hyd y cyfyngiadau. Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu hysbysu cyn gynted ag y bydd yr amgylchiadau'n caniatáu.
Bydd Gofalwyr Cymru yn defnyddio'r lluniau i helpu i ymgyrchu dros hawliau gofalwyr, darparu gwybodaeth a chyngor a helpu i wella bywydau gofalwyr.