Dysgu ar gyfer Byw
Ydych chi’n gwybod pa mor dalentog ydych chi?
Mae gofalu am rywun annwyl, Dysgu ar gyfer Byw, aelod o'r teulu neu ffrind yn golygu y byddwch wedi datblygu ystod fawr o sgiliau.
Bydd ein rhaglen e-ddysgu yn eich helpu i sylweddoli pa mor dalentog ydych chi.
Mae Dysgu ar gyfer yn raglan e-ddysgu defnyddiol, a fydd yn rhoi hwb i’ch hyder i wynebu bywyd. Ar ôl ei chwblhau, byddwch yn cael bathodyn i’w gyflwyno i’ch cyflogwr presennol neu i gyflogwr yn y dyfodol, er mwyn iddynt fedru adnabod eich sgiliau.
Neu, yn syml, gallwch fwynhau Learning for Living a dathlu beth rydych chi’n ei wneud bob dydd ac efallai, yn cymryd yn ganiataol.
Adborth gan ofalwyr di-dâl:
"Rwy'n credu y byddai mynd drwy'r broses hon yn bendant yn gwneud i ofalwyr deimlo'n dda am y sgiliau a'r galluoedd maen nhw wedi'u hennill yn ystod eu ' gyrfaoedd ' gofalu. Un o'r heriau mwyaf yw ceisio argyhoeddi eraill, tra’ch bod chi wedi bod yn gofalu am 10 mlynedd, eich bod chi wedi bod yn datblygu ac yn ymarfer sgiliau yn ystod y cyfnod hwn, Mae Dysgu ar gyfer Byw yn drylwyr, yn ddefnyddiol ac yn hwyl. "
"Roedd defnyddio enghreifftiau o fywyd go iawn yn gwneud y rhaglen yn berthnasol iawn i mi, ac yn gymwys i mi yn fy rôl ofalu. Roeddwn yn hoffi sut y gallwn arbed fy nghynnydd, cymryd seibiant a chwblhau'r rhaglen yn fy amser fy hun. Roeddwn yn gwerthfawrogi'r defnydd o ddamcaniaeth, a sut y gallwn gymhwyso hyn yn ymarferol i fy nysgu. Yn wir, fe wnaeth y modiwl Darlunio eich dyfodol wneud i mi stopio am funud i feddwl beth rydw i eisiau ar gyfer fy nyfodol. "